Darganfod Pontgarreg a Blaencelyn

Pontgarreg, Ceredigion, Gorllewin Cymru

Dim ond taith fer yn y car o arfordir godidog Bae Ceredigion, mae pentrefi Pontgarreg a Blaencelyn yn cynnig y gorau o fywyd cefn gwlad Cymru ynghyd â mynediad hawdd i draethau gwych a chwaraeon dŵr. 

Mae'r pentrefi yn daith fer o’r pentrefi arfordirol mwy o faint Aberporth (6 milltir o Bontgarreg/9 milltir o Flaencelyn) a Chei Newydd (10 milltir o Bontgarreg/7 milltir o Flaencelyn). Fel arall, mae'r trefi Castellnewydd Emlyn a Llandysul tua 11/12 milltir i mewn i'r tir, ac yma fe welwch siopau, bwytai a chyfleusterau hamdden. 

Os ydych am brynu cartref parhaol, llety gwyliau, eiddo masnachol neu dir yn y rhan ddigyffwrdd hon o Orllewin Cymru, yna gysylltwch â Helen neu Tania i drafod eich chwiliad eiddo. Rydyn ni wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano - gallwch chi hefyd ddarllen mwy am drefi a phentrefi eraill y rhanbarth yn ein Gwybodaeth am y Lleoliad.

Hanes

Eglwys Blaencelyn
Eglwys Blaencelyn

Mae gan Orllewin Cymru, gyda’i arfordir dramatig, bentrefi gwasgaredig, gwledig, hardd sydd wedi bod yn gartref i hanes cyfoethog ac amrywiol. Mae chwedlau hud a brenhinoedd, brwydrau enwog yn erbyn y Saeson, datblygiadau o'r cyfnod diwydiannol a mwy i gyd yn cyfuno i greu tir sy'n gynyddol boblogaidd gyda pherchnogion tai a buddsoddwyr.

Er ei fod yn fach, mae Blaencelyn ei hun yn gartref i eglwys hardd, yn dyddio'n ôl i 1894. Credir iddi gael ei hadeiladu gan David Davies, mewn arddull Gothig syml. Yn anffodus caeodd yn 2002, ond mae ei bensaernïaeth i'w weld o hyd yn agos i'r pentref.

Twristiaeth a Hamdden

Neuadd Bentref Pontgarreg
Neuadd Bentref Pontgarreg

P'un a ydych chi'n caru gweithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio neu farchogaeth, neu os yw'n well gennych chwaraeon dŵr fel syrffio, barcudfyrddio a hwylfyrddio, mae gan y rhan hon o Orllewin Cymru bopeth sydd ei angen arnoch.

Mae Pontgarreg tua phum munud mewn car o'r traeth hyfryd Llangrannog(Blaencelyn tua 10 munud mewn car). Yn boblogaidd trwy gydol y flwyddyn, mae gan y traeth tywodlyd hwn ddewis da o gaffis a bwytai a gallwch gerdded i’r pentir i weld y morloi a’r dolffiniaid sy’n ymgartrefu yn nyfroedd glân Bae Ceredigion. Mae traethau eraill gerllaw yn cynnwys Cilborth a Thraeth Bach, yn ogystal â thraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Traeth Penbryn.

Mae Aberporth,hefyd yn boblogaidd iawn gyda'i ddau draeth tywodlyd cysgodol a phyllau glan môr, yn ogystal â Chei Newydd, sydd â thri thraeth hyfryd.

I gerddwyr nid yw’r llwybr enwog Llwybr Arfordir Ceredigion, ddim yn bell i ffwrdd, yn ymestyn 60 milltir o Aberteifi yn y de i Ynyslas yn y gogledd. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ffyrdd tawel a llwybrau beicio, gan wneud yr ardal hon yn hynod boblogaidd gyda beicwyr, yn ogystal â digon o lwybrau ceffyl os ydych yn mwynhau marchogaeth.

Gwersyll Yr Urdd Llangrannog
Gwersyll Yr Urdd Llangrannog

Ym Mhontgarreg ei hun mae maes chwarae i blant a neuadd bentref, sy'n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau megis boreau coffi ac arwerthiannau cist car. Ychydig y tu allan i Bontgarreg mae Gwersyll Yr Urdd Llangrannogsy’n ganolfan addysg ardderchog i blant yn bennaf, ond ar adegau mae’n agor i’r cyhoedd i gynnig gweithgareddau fel llethr sgïo sych, gwib-gartio, nofio a mwy.

Mae gan ganolfan hamdden Castell Newydd Emlyn bwll nofio a champfa yn ogystal ag amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau ffitrwydd dŵr a chyfleusterau megis cyrtiau sboncen, trac athletau a thenis bwrdd. 

Yn Llandysul hefyd mae pwll nofio ac ystafell ffitrwydd, gydag offer campfa, cyrtiau badminton a wal ddringo. Mae clwb cricedyn Llandysul hefyd, ac os ydych chi’n dwlu ar chwaraeon antur ceisiwch Llandysul Paddlerssydd â hofforddwyr profiadol i fynd â chi i ganŵio, nofio afon, cerdded bryniau, dringo, canyoning a mwy.

Siopa

Siop Blaencelyn
Siop Blaencelyn

Nid oes gan y pentrefi tlws hyn unrhyw siopau eu hunain, ond gallwch ddod o hyd i hanfodion fel bwydydd a phetrol yn y pentrefi cyfagos. 

Ym Mrynhoffnant, lle mae'r ysgol gynradd leol, mae siop groser Londis a gorsaf betrol. Yn Aberporth a Chei Newydd gallwch ddod o hyd i siopau groser a siopau anrhegion bach lleol, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan bentrefi gwyliau arfordirol, ac mae gan bob un Swyddfa Bost.

Teithiwch ychydig ymhellach i Landysul ac fe welwch Spar a Siop Fwyd CK, yn ogystal â chigydd a siop ffrwythau, ochr yn ochr â siopau annibynnol eraill sy'n gwerthu popeth o anrhegion i flodau.

Fel arall, yng Nghastell Newydd Emlyn mae Swyddfa Bost, siop fwyd y Co-Op, a llawer o siopau annibynnol, gan gynnwys siop lysiau, siop gemwaith a'r siop boblogaidd Cardigan Bay Brownies . Mae yna hefyd siop iechyd Riverside Health ar gyfer bwydydd cyflawn ac atchwanegiadau iechyd. 

Ar gyfer siopau ac archfarchnadoedd mawr, mae'r rhai agosaf yn nhref farchnad hyfryd Aberteifi (14 milltir o Bontgarreg, 15 milltir o Flaencelyn). Yma mae archfarchnad Tesco, ynghyd ag Aldi a Spar, a llawer o siopau arbenigol fel siopau syrffio, pobyddion a siopau trin gwallt. Dylech hefyd archwilio Marchnad Neuadd y Dref – yma mae dros 50 o stondinau wedi’u gosod mewn adeilad treftadaeth rhestredig Gradd II. 

Mae gan Aberteifi hefyd Swyddfa Bost a banciau – Lloyds, Barclays a HSBC – yn ogystal â theatr a Theatre Mwldan.

Bwyta ac Yfed

Siop Fferm Pontgarreg
Siop Fferm ger Pontgarreg

Er nad oes gan Bontgarreg na Blaencelyn eu profiadau bwyta eu hunain, mae’r pentrefi cyfagos yn gartref i nifer o fwytai a thafarndai – gyda rhai gwych ar bwys y traethau lleol. Yn Llangrannog ceisiwch The Beach Hut, sy'n gweini coffi, cacennau, pysgod a sglodion a nifer o seigiau arbennig Cymreig. Mae yno hefyd y PentreArmshyfryd, a leolir wrth y traeth ac sy'n cynnig bwyd cartref a llety os ydych yn dod i chwilio am dŷ yn yr ardal. Ar gyfer hufen iâ cartref gwych, peidiwch â cholli'r Caffi Patio – yma gallwch hefyd fwynhau ysgytlaeth ac amrywiaeth o fyrbrydau.

Yng Nghei Newydd fe welwch ddewis o fwytai gwych fel The Pepper Pot Bar & Grill, sydd hefyd yn cynnig llety. Mae yna hefyd The Bluebell Deli & Bistro, neu ceisiwch The Lime Crab am bysgod a sglodion gyda thro!

Mae gan Aberporth hefyd ddewis da o gaffis a bwytai fel The Boy Ashore a leolir ar y traeth, The Ship Inn gyda golygfeydd hyfryd o'r môr a Caffi Sgadan am bysgod a sglodion gwych.

Hefyd yn werth ei geisio yw Bryn a'r Bragdy ym Mrynhoffnant, bragdy ac ystafell dap wych sy’n gweini ei gwrw ei hun a’i pizzas blasus.

Fel arall, mae Castell Newydd Emlyn a Llandysul yn cynnig dewis o fwytai, siopau coffi a siopau cludfwyd. Yn Llandysul mae siop tecawê Tsieineaidd - Dan l'Sang, siop gludfwyd Indiaidd Taj Llandysul, a siop tecawê Pizza Choice , yn ogystal â dewis o siopau coffi a chaffis fel Nyth Y Robin.

Os ydych yn ymweld â Chastell Newydd Emlyn Yng Nghastell Newydd Emlyn, ceisiwch Y Cwtch Coffi am goffi da a chacennau cartref, neu Riverside Café yn Adpar – caffi llysieuol yn gweini seigiau fel powlenni Bwdha, cacennau a mwy. Mae yna hefyd ddewis o dafarndai fel y Coopers Arms or The Three Compasses, yn ogystal â siopau cludfwyd Indiaidd a Tsieineaidd.

Wyau Hwyaid Pontgarreg
Wyau Hwyaid ar werth ger Blaencelyn

Gofal Iechyd

Yng Nghei Newydd mae meddygfa ar Church Road. Fel arall, mae gan Gastell Newydd Emlyn a Llandysul ddewis o feddygon a deintyddion. Ble bynnag yr ydych yn dewis byw fydd mwy na thebyg yn eich helpu i benderfynu pa bractis i gofrestru ag ef.

Yng Nghastell Newydd Emlyn mae Meddygfa Emlyn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6.30pm os oes angen i chi weld meddyg. Mae dwy ddeintyddfa yn y dref hefyd – Gofal Deintyddol Emlyn, ar Lôn yr Eglwys, a Chanolfan Ddeintyddol Teifi yn Sgwâr Emlyn. Mae gennych hefyd ddewis o ddwy fferyllfa - Fferyllfa Boots a Fferyllfa’r Bont.

Yn Llandysul mae Meddygfa Llynyfran, os oes angen gweld meddyg, ac mae'n rhedeg nifer o glinigau arbenigol fel clinigau asthma a merched iach. Mae gan Landysul hefyd y The Cottage Dental Practice, yn ogystal â Fferyllfa Lloyds ar Heol Newydd, a Fferyllfa Boots ar Stryd Lincoln.

Os oes gennych anifail anwes, mae Castle House practis milfeddygol yng Nghastell Newydd Emlyn, tra yn Llandysul mae Milfeddygon Tysul/Tysul Vets.

Ar gyfer ceiropractydd rhagorol byddem yn argymell West Wales Chiropractors ym Mlaenporth (tua 7 milltir o Bontgarreg, 8.5 milltir o Flaencelyn).

Ysgolion

Ar gyfer plant iau sy'n mynd i'r ysgol gynradd, mae’r ysgol agosaf ym Mrynhoffnant (2.5 milltir o Bontgarreg a 3.7 milltir o Flaencelyn). O’r enw Ysgol T Llew Jones, mae hon yn ysgol boblogaidd ac yn cynnig addysg ddwyieithog i blant.

Ar gyfer addysg uwchradd, gall plant ym Mhontgarreg a Blaencelyn fynd i, naill a’i Yng Nghastell Newydd Emlyn, neu i Ysgol Bro Teifiyn Llandysul, sy’n ysgol gynradd ac uwchradd gyfunol bwrpasol a agorwyd yn 2016.

Opsiwn arall ar gyfer addysg bellach, prentisiaethau neu astudio ar-lein, yw Coleg Ceredigion yn Aberteifi. Mae hyn yn cynnig dewis gwych o gyrsiau academaidd ac ymarferol, gan gynnwys astudio rhan amser. Cymerwch olwg ar eu gwefan i weld y prosbectws diweddaraf.

Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, (27 milltir o Flaencelyn, 28 milltir o Bontgarreg) hefyd yn ddewis da os oes gennych chi neu'ch plentyn ddiddordeb mewn addysg prifysgol yn agos i'ch cartref. Gan ddenu myfyrwyr o bedwar ban byd, mae'n cynnig dewis eang o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a dysgu gydol oes.

Os oes gennych blentyn ag anawsterau dysgu difrifol neu awtistiaeth, byddem hefyd yn argymell Canolfan y Don yn Ysgol Aberporth. Mae gan yr ysgol hon enw rhagorol, gan ddarparu cyfleusterau arbenigol a thîm profiadol i gefnogi plant hyd at 11 oed. 

Cludiant

Arwyddion Ffordd Pontgarreg

Mae’r rhan hon o Orllewin Cymru yn heddychlon a gwledig iawn, ac o’r herwydd fe welwch nad oes gwasanaeth trên. Darperir cludiant cyhoeddus gan fysiau, ond efallai na fydd y rhain mor aml ag sydd eu hangen arnoch i gael mynediad i holl fwynderau'r ardal ehangach. Felly rydym yn cynghori ein holl gleientiaid bod angen car os ydych yn dewis byw neu weithio yn yr ardal hon.

Darganfod Mwy…

Meddwl am symud i Bontgarreg neu Flaencelyn? Rydyn ni wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i'w cartrefi delfrydol yma yng Ngorllewin Cymru. Cysylltwch â ni ar 01239 562 500 i drafod eich gofynion eiddo a sut gallwn ni helpu.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y gwasanaethau a’r gweithgareddau yng Ngorllewin Cymru a Bae Ceredigion ar y gwefannau eraill hyn –