OnTheMarket.com

Mae Cardigan Bay Properties yn falch o gyhoeddi bod ein holl eiddo bellach yn cael eu hysbysebu ar y porth eiddo, OnTheMarket.com

Mae hyn yn ychwanegol at hysbysebu ein holl eiddo eisoes gyda Rightmove, Zoopla a Primelocation.
Drwy ychwanegu OnTheMarket.com at ein arsenal o byrth eiddo rydym yn sicrhau bod ein perchnogion tai yn cael y gorau oll i’n gwerthwyr wrth hysbysebu eu heiddo.
Mae’n bwysig i ni ein bod yn cynnig y gorau oll i’n gwerthwyr wrth hysbysebu am eu heiddo a dyna pam rydym wedi buddsoddi mwy er mwyn sicrhau bod ein holl gartrefi yn cael eu hysbysebu gyda’r tri phrif borth eiddo yn y DU.
Ar ben hyn oll, mae ein heiddo hefyd yn cael eu marchnata ar ein siop Facebook Marketplace ein hunain, ein gwefan ryngweithiol ac yn y wasg leol, ar-lein ac all-lein.
Mae hyn yn sicrhau bod ein cartrefi yn cael eu gweld gan yr holl brynwyr yn y DU sy'n edrych i symud i'n hardaloedd gwych, gan wneud yn siŵr na fydd unrhyw gyfle yn cael ei golli.
Rydym hefyd yn werthwyr tai Gwarchodedig Propertymark, yn aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai, ac yn aelodau o'r Ombwdsmon Eiddo, gan roi hyder i chi wybod bod eich eiddo mewn dwylo diogel a dibynadwy gwerthwyr tai arbenigol.
Rydym yn gwerthu pob math o eiddo, (preswyl a masnachol), tir a thyddynnod ar draws y rhan fwyaf o Orllewin Cymru. Pe hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn eich helpu i werthu eich eiddo, cysylltwch â ni YMA