Darganfod Pentregat a Phlwmp

Golygfeydd o Plwmp

Dim ond taith fer o arfordir godidog Bae Ceredigion a thua 7 milltir i'r de o dref glan môr hardd Nghei Newydd, mae pentrefi Gorllewin Cymru Pentregat a Phlwmp yn boblogaidd gyda helwyr tai.

Mae trefi mwy o faint, Castell Newydd Emlyn a Llandysul tua 15 i 20 munud i ffwrdd, tra bod gan dref farchnad hanesyddol Aberteifi (13 milltir o Bentregat / 14 milltir o Blwmp) bopeth o archfarchnadoedd i sinema a chanolfan hamdden.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cartref, tir neu eiddo masnachol yn yr ardal, Cysylltwch â ni i gael gwybod am ein rhestrau diweddaraf a sut y gallwn eich helpu gyda'ch chwiliad. Gallwch hefyd ddarllen am lawer o drefi a phentrefi eraill Gorllewin Cymru yn ein Gwybodaeth am y Lleoliad

Hanes

Lleoliad Tollborth, Pentregat

Gyda'i enw yn tarddu o'r Gymraeg am 'porth pentref' roedd gan Bentregat dollborthei hun ar un adeg, ond yn anffodus diflannodd hon dros y blynyddoedd. Arweiniodd y tollbyrth niferus a fodolai yng Nghymru at Derfysgoedd Beca ym 1839, a gwelid aflonyddwch oherwydd y tollau uchel a fynnir gan yr Ymddiriedolaethau Tyrpeg a’u casglwyr tollau proffesiynol – gallwch ddarllen mwy am y terfysgoedd yma

Ynghyd â Plwmp cyfagos, mae’r rhain yn bentrefi gwledig wedi’u hamgylchynu gan safleoedd hanesyddol, rhai yn dyddio’n ôl i’r oes haearn. Yn wir, mae’r rhan hon o Orllewin Cymru yn llawn chwedlau am frwydrau yn erbyn brenhinoedd Lloegr a hud a lledrith hynafol, yn ogystal â smyglo o amgylch cildraethau diarffordd Cei Newydd.

Mae gan Blwmp ei hun gapel bychan sy’n dyddio’n ôl i 1848, er iddo gael ei ailadeiladu yn 1858, a’i ailadeiladu eto ym 1897 – a’r capel hwn yn yr arddull Glasurol sydd i’w weld heddiw.

Twristiaeth a Hamdden

Pentregat

Gan fod lleoliad y pentrefi hyn mor agos at arfordir prydferth Bae Ceredigion, nid yw'n syndod bod llawer o'r chwaraeon a gweithgareddau y mae pobl leol yn dewis eu gwneud yn digwydd o gwmpas y traethau.

Y traeth agosaf at Bentregat (3.6 milltir) a Phlwmp (4.5 milltir) yw Traeth Llangrannog ac mae’n boblogaidd drwy’r flwyddyn. Yma mae prif draeth ac ail draeth llai, gyda’r ddau yn cynnig golygfeydd bendigedig o’r moroedd glân lle mae dolffiniaid trwynbwl, morloi, llamhidyddion a bywyd môr arall yn ffynnu. Gallwch weld dolffiniaid yn chwarae yn y môr yn rheolaidd!

Hefyd gerllaw mae TraethtCwmtydu (4.1 milltir o Plwmp/5.1 milltir o Bentregat), cildraeth bach tlws a oedd unwaith yn annwyl gan smyglwyr! Mae yna hefyd Traeth Penbryn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn rhedeg am bron i filltir o hyd, gyda thywod euraidd hardd a digon o le i blant chwarae.

Mae yna lawer o chwaraeon dŵr i ddewis ohonynt, ond syrffio yw un o’r rhai mwyaf poblogaidd gyda dewis o draethau ar gyfer pob gallu a gwersi ar gael yn rhwydd i'ch helpu i ddysgu. Os yw'n well gennych fod ar gwch, Traeth Tresaith, tua chwe milltir i ffwrdd, yw cartref Tresaith Mariners , clwb hwylio dingis a chatamaranau. Fel arall, os yw hwylfyrddio, barcudfyrddio neu sgïo dŵr yn fwy o beth i chi, yna fe welwch chi hefyd ddigonedd o draethau i'ch helpu chi i ddysgu neu ymarfer eich sgiliau.

Mae pysgota hefyd yn ddifyrrwch poblogaidd yma, gyda milltiroedd o arfordir i'w ddarganfod, ac os ydych chi am ymuno â chlwb pysgota, mae Chymdeithas Bysgota Llandysul, , sydd â'r hawl i dros 30 milltir o bysgota ar Afon Teifi.

Y tu hwnt i'r arfordir mae amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored ac antur i'w mwynhau. Mae’r llwybr enwog Llwybr Arfordir Ceredigion, yn wych i'w archwilio, gan gwmpasu 60 milltir o'r arfordir - o Aberteifi yn y de hyd at Ynyslas yn y gogledd. Mae yna hefyd ffyrdd tawel ar gyfer beicio ffordd, a llawer o draciau a llwybrau ceffyl ar gyfer beicio mynydd a marchogaeth. Gallwch chi hefyd siarad â Llandysul Paddlerss, sy'n cynnig amrywiaeth o chwaraeon antur fel canŵio, nofio afon, canyoning a dringo, i gyd gyda hyfforddwyr profiadol.  

Bydd cefnogwyr criced yn falch o glywed bod Chlwb Criced Llandysul,, clwb cyfeillgar gyda thimau iau hefyd.  

Os yw'n well gennych nofio mewn pwll neu gadw'n heini mewn campfa fe welwch y ddau yng Nghanolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn neu yn y Ganolfan Hamdden yn Llandysul.

Ymhlith yr atyniadau eraill yn yr ardal mae adfeillion y castell yng Nghastell Newydd Emlyn, yr Amgueddfa Bwer Tân Mewnol – y casgliad mwyaf o beiriannau gweithiol yng Nghymru, a Teifi Valley Railway.

Siopa

Pentregat

Un o’r atyniadau byw mewn cymuned wledig yw bod siopau bach, annibynnol ar wasgar o amgylch cefn gwlad.

Ym Mhlwmp mae siop gyfleustra fach a Swyddfa'r Post, a nid nepell i ffwrdd mae Lewtress Natural Health, arbenigwr ar-lein mewn bwydydd ac atchwanegiadau iechyd. 

Siop Bentref Plwmp

Tua phum munud i fyny'r ffordd o Blwmp, ym Mhost Mawr, fe welwch Popty Kates Bakery,, popty ffantastig sy’n gwerthu dewis blasus o fara, cacennau a danteithion eraill.  

Dim ond 1.7 milltir o Bentregat, ym Mrynhoffnant, mae Siop Hoffnant, siop gyfleustra a gorsaf betrol, tra bod tua phum munud i ffwrdd mewn car mae Siop Fferm Bedw.

Mae Cei Newydd, tua 7 milltir i’r gogledd o’r pentrefi hyn, yn bentref glan môr sydd hefyd â siopau a chaffis hyfryd i’w harchwilio. Siop gyfleustra a Swyddfa Bost yw The Corner Shop , ac mae yno hefyd siopau anrhegion, cigydd gwych, a hyd yn oed siop gitâr arbenigol! siopa!

Mae Castell Newydd Emlyn a Llandysul yn cynnig dewis ehangach o siopau. Yng Yng Nghastell Newydd Emlyn, gallwch bori trwy siopau sy'n gwerthu popeth o ddillad, i ffrwythau a'r enwog Cardigan Bay BrowniesYn Llandysul mae Spar a Siop Fwyd CK, yn ogystal â chigydd, siop ffrwythau, a siop hen bethau.

Ar gyfer archfarchnadoedd mawr ewch i Aberteifi , lle mae Tesco, Spar ac Aldi, yn ogystal â banciau mawr – Lloyds, Barclays a HSBC. Yma gallwch hefyd fwynhau archwilio Marchnad Neuadd y Dref, marchnad hanesyddol gyda dros 50 o stondinau gwahanol a siop goffi.

Bwyta ac Yfed

Y Dafarn Newydd, Pentregat

Mae gan Orllewin Cymru enw da cynyddol am fwyd a diodydd gwych a byddwch yn dod o hyd i ddewis eang o amgylch y pentrefi hyn. 

Ym Mhentregat ailagorwyd y New Inn yn ddiweddar ar ôl prosiect blwyddyn o adnewyddu ac adfer, sydd wedi creu bar a bwyty newydd steilus. Ym Mrynhoffnant mae'r Bryn a'r Bragdy yn dafarn leol gyfeillgar, sy’n gweini cwrw crefft wedi’i fragu ar y safle, ochr yn ochr â pizzas tân coed a seigiau eraill fel byrgyrs.

Ewch i'r arfordir ac mae digon o fwytai a chaffis traeth. Ym mhentref Penbryn (tua 5 milltir i ffwrdd), gallwch fwynhau cacennau cartref a seigiau sawrus fel cawl yn The Plwmp Tart

Yn Llangrannog gallwch roi cynnig ar The Beach Hut, caffi teuluol sy'n gweini pysgod a sglodion da, coffi a phrydau cartref eraill, neu rhowch gynnig ar y Caffi Patio am hufen iâ gwych! Os ydych yn dod i’r ardal i chwlio am dŷ fe allech chi hefyd aros yn y Pentre Arms, a leolir yn union wrth ymyl y traeth yn Llangrannog ac gyda golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion.

Ychydig dros dair milltir i ffwrdd yn Ffostrasol, gallwch fwynhau coginio Eidalaidd da yn La Calabria, bwyty teuluol. Fel arall, rhowch gynnig ar y Ffostrasol Arms, hen dafarn o ddyddiau’r goets fawr sydd bellach yn ddewis poblogaidd ar gyfer prydau a digwyddiadau.

Yng Nghei Newydd mae digonedd o fwytai – rhowch gynnig ar Gwmni Coffi Cei Newydd am ddewis o goffi blasus neu’r Blue Bell Deli & Bistro, sy'n cynnig bwyd da a golygfeydd gwych. Mae tref Sioraidd bert Aberaeron tua 10 milltir i ffwrdd hefyd. Fe welwch gaffis y bwytai yn y dref harbwr liwgar hon.

Capel Plwmp

Gofal Iechyd

O Bentregat a Phlwmp mae'r feddygfa agosaf yng Nghei Newydd, tua 7 milltir i ffwrdd. Yma mae Meddygfa Cei Newydd, a leolir ar Church Road.

Fel arall, byddwch hefyd yn dod o hyd i fyddygfeydd yng Nghastell Newydd Emlyn a Llandysul. Yng Nghastell Newydd Emlyn mae Meddygfa Emlyn , sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6.30pm. Yn Llandysul mae Meddygfa Llynyfran, , sydd â dewis o feddygon, yn ogystal â chynnig e-ymgynghoriadau ar faterion megis canlyniadau profion. 

Ar gyfer gofal deintyddol mae dwy ddeintyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn – Emlyn Dental Care a leolir ar Lôn yr Eglwys, a Teifi Dental Centre yn Sgwâr Emlyn, tra yn Llandysul mae The Cottage Dental Practice

Ar gyfer fferyllfeydd mae Central Pharmacy yng Nghei Newydd. Fel arall yn Llandysul mae Fferyllfa Lloyds, mewn lleoliad canolog ar Heol Newydd, a Fferyllfa Boots ar Stryd Lincoln, tra yng Nghastell Newydd Emlyn mae Fferyllfa Boots a Fferyllfa'r Bont.

Byddem hefyd yn argymell West Wales Chiropractors ym Mlaenporth (tua 7 milltir o'r pentrefi hyn).

Os oes gennych anifeiliaid anwes mae milfeddygfeydd yng Nghastell Newydd Emlyn – Castle House, ac yn Llandysul - Milfeddygon Tysul/Tysul Vets.

Ysgolion

Mae'r ysgol gynradd agosaf ar gyfer Pentregat a Phlwmp ym Mrynhoffnant – y Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant yw’r ysgol gynradd agosaf ar gyfer Pentregat a Phlwmp. Mae ganddi ddosbarth meithrin a chlwb gofal ar ôl ysgol

O ran addysg uwchradd mae ysgolion yn Yng Nghastell Newydd Emlyn, a Llandysul, sydd â'r ysgol gynradd ac uwchradd gyfunol bwrpasol Ysgol Bro Teifi . Bydd pa ysgol y bydd eich plant yn ei mynychu yn dibynnu ar leoliad y cartref y dewiswch ei brynu.

Mae opsiynau addysg bellach ar gael yn Aberteifi, lle mae Coleg Ceredigion. Yn goleg sydd wedi hen ennill ei blwyf, mae’n cynnig dewis da o gyrsiau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys prentisiaethau ac opsiynau astudio ar-lein sy’n cwmpasu popeth o iechyd i ofal plant a thechnoleg gwybodaeth.

Fel arall, os oes gennych chi neu'ch plentyn ddiddordeb mewn cwrs prifysgol, mae Prifysgol Aberystwyth, tua 26 milltir i fyny'r arfordir o'r pentrefi hyn. Mae'r brifysgol hon yn cynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal ag opsiynau astudio ar-lein a chyrsiau dysgu gydol oes.

I deuluoedd sydd â phlentyn ag awtistiaeth neu anableddau dysgu difrifol, mae ysgol wych yn Aberporth – Canolfan y Don (tua 8 milltir o'r pentrefi hyn yn dibynnu lle rydych chi'n dewis byw). Mae’r tîm yn brofiadol iawn ac mae’r cyfleusterau’n cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu i blant hyd at 11 oed.

Cludiant

Pentregat

Lleolir Pentregat a Phlwmp ar bwys yr A487, sy’n cynnig gwasanaethau bws rheolaidd i Aberteifi, tra bod gwasanaethau bws eraill i Gastell Newydd Emlyn a Llandysul hefyd ar gael – rhai gyda newidiadau yn angenrheidiol. Gallwch ddarganfod mwy drwy ddefnyddio’r cynlluniwr taith hwn ac yma

I gael mynediad i holl gyfleusterau a gwasanaethau'r trefi a'r pentrefi cyfagos bydd angen car arnoch gan nad yw’r gwasanaethau bws yn rhedeg yn aml iawn ac ar adegau gallant fod yn hir, yn enwedig lle mae angen newidiadau.

Darganfod Mwy…

Golygfeydd o Plwmp

Mae Pentregat a Phlwmp yn cynnig cymysgedd gwych o fywyd gwledig Cymreig ac arfordir prydferth Bae Ceredigion. Ar ôl byw a gweithio yn yr ardal ers blynyddoedd lawer, rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch cartref, tir neu eiddo masnachol nesaf yn yr ardal. Ffoniwch ni ar 01239 562 500 i drafod eich chwiliad eiddo.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am bentrefi Gorllewin Cymru wledig a Bae Ceredigion ar y gwefannau eraill hyn –