Darganfod Cwmduad & Cynwyl Elfed

Cwmduad, sir Gaerfyrddin

Os ydych chi'n chwilio am fywyd gwledig Cymreig ynghyd â mynediad hawdd i drefi mwy o faint, yna efallai byddai pentrefi Cwmduad a Chynwyl Elfed yn eich siwtio chi i’r dim.   

Yn sefyll rhwng Castell Newydd Emlyn, Llandysul a Chaerfyrddin, tref sirol Sir Gaerfyrddin, mae'r pentrefi hyn yn cynnig golygfeydd hyfryd ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth, yn ogystal ag ysgolion da ac ystod o amwynderau yn y trefi mwy o faint. Hefyd, dim ond taith fer yw hi i arfordir godidog Bae Ceredigion. 

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch cartref nesaf ar werth yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro. Gallwch ddarllen ymlaen i ddarganfod mwy am Gwmduad a Chynwyl Elfed, neu gallwch ddarganfod mwy am drefi a phentrefi eraill Gorllewin Cymru yn ein Gwybodaeth am y Lleoliad.  

Am unrhyw gwestiynau neu i gofrestru gyda ni i dderbyn diweddariadau ar eiddo newydd sy'n dod ar y farchnad Cysylltwch â os gwelwch yn dda, Helen neu Tania,  a byddwn yn hapus i helpu. 

Hanes 

Canolfan Gymunedol Cwmduad, Sir Gaerfyrddin
Canolfan Gymunedol Cwmduad, Sir Gaerfyrddin

Mae cymuned Cynwyl Elfed, sy'n cynnwys Cwmduad, wedi bod yn ffynhonnell llawer o arteffactau Rhufeinig gwahanol, gan gynnwys cerflun o'r dduwies Diana a addolid fel noddwraig cefn gwlad a byd natur. 

Y pentref hefyd oedd canolfan bwysicaf 'cwmwd' Elfed yn yr Oesoedd Canol. 

Bu’r rheilffordd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yma ar un adeg, gyda Chynwyl Elfed â’i orsaf reilffordd ei hun ar y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth – caeodd hon yn anffodus yn 1965. 

Gallwch hefyd ymweld ag eglwys blwyf Sant Cynwyl yr Eglwys yng Nghymru, a sefydlwyd yn ôl yn y 6ed ganrif ac sydd heddiw yn adeilad rhestredig Gradd II.  

Twristiaeth a Hamdden 

Wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad hardd ac arfordir godidog Bae Ceredigion ychydig dros 30 munud i ffwrdd mewn car, ynghyd â holl fwynderau Caerfyrddin gerllaw, does ryfedd fod y rhan hon o Orllewin Cymru yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda phobl sy’n chwilio am dai.  

Os ydych chi'n mwynhau mynd allan a cherdded yna mae gan Sir Gaerfyrddin ddewis gwych o lwybrau troed ar gyfer pob lefel, ond ar gyfer golygfeydd arfordirol gwych, ceisiwch ran o’r daith gerdded enwog ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion,. Wrth i chi gerdded, cadwch lygad allan am ychydig o fywyd gwyllt yr arfordir fel dolffiniaid a morloi. 

Mae Beicio ffordd a beicio mynydd hefyd yn boblogaidd iawn yma, gyda digon o lwybrau a thraciau gwych i’w harchwilio. Yn yr un modd, bydd reidwyr ceffylau brwd wrth eu bodd yn darganfod llwybrau ceffyl a lonydd tawel y rhan hon o Orllewin Cymru. Mewn gwirionedd, mae'r ardal hon yn wych ar gyfer reidwyr ceffylau, gyda Little Mill Equestrian Centre tua 13 munud i ffwrdd, ac mae Knightsford Equestrian ychydig i'r gogledd o Gaerfyrddin hefyd.  

Yn ôl ar yr arfordir, gall trigolion yma fwynhau rhai o draethau gorau'r DU. Mae Traith Llangrannog tua 40 munud mewn car o'r pentrefi hyn ac mae teuluoedd a syrffwyr yn ei garu oherwydd yr awyrgylch hamddenol a chaffis traeth cyfeillgar fel Caffi Patio a The Beach Hut

Aberporth, Ceredigion, Gorllewin Cymru

Aberporth, hefyd yn hyfryd ac ychydig yn nes - tua 35 munud mewn car; tra bod Thraeth Mwnt, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tua 45 munud i ffwrdd. Mae Aberaeronyn boblogaidd hefyd, sy'n hyfryd ar gyfer crwydro gyda'i dai arddull y Rhaglywiaeth, harbwr a thraeth. 

Mae dewis braf o draethau yn yr ardal hon yn golygu bod chwaraeon dŵr yn boblogaidd iawn. Gallwch roi cynnig ar bopeth o syrffio barcud a hwylfyrddio i gaiacio a phadlfyrddio, ond mae'n rhaid mai'r mwyaf poblogaidd yw syrffio. Argymhellir gwahanol draethau ar gyfer gwahanol alluoedd syrffio, felly penderfynwch beth yw’ch safon ac ewch allan i ddal tonnau neu gael gwersi! 

Os mai pysgota yw eich peth yna gallwch ddewis rhwng Bae Ceredigion ac Afon Teifi enwog lle mae Chymdeithas Bysgota Llandysul, â hawliau pysgota ar dros 30 milltir o'r afon. 

Mae Landysul hefyd yn gartref i Padlwyr Llandysul, cwmni sy'n cynnig digon o antur! Gyda hyfforddwyr arbenigol, gallwch roi cynnig ar geunantio, nofio afon, dringo a mwy - ffordd wych o ddarganfod corneli cudd Gorllewin Cymru. 

I gricedwyr brwd mae Chlwb Criced Llandysul,, sydd â nifer o dimau, tra bod canolfannau hamdden yn Llandysul a Chastell Newydd Emlyn. cael eu canolfannau hamdden eu hunain gyda phyllau nofio.  

Mae gan Gaerfyrddin bob math o glybiau a chymdeithasau hefyd. Mae Clwb Rygbi Caerfyrddin yn rhan wych o'r gymuned, ynghyd â Clwb Pêl-droed Caerfyrddina Ffermwyr Ifanc Caerfyrddin.   

Mae yna hefyd ddigon o atyniadau twristiaeth i'w gael yma. Mae Castell Caerfyrddin a Nghastell Newydd Emlyn yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar hanes yr ardal, tra dylech chi fynd ar daith ar Rheilffordd Gwili ger Caerfyrddin, sy'n cynnig profiad trên vintage. Mae yna hefyd sinema Vue yng Nghaerfyrddin os ydych yn mwynhau gwylio'r ffilmiau diweddaraf.   

Siopa 

Garej Murco, Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin
Garej Murco, Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin

Mae Gorllewin Cymru wledig yn cynnig pob math o siopau – rhai ohonynt na fyddwch yn dod o hyd iddynt yn unman arall! 

Mae siop gyfleustra Premier yng Nghynwyl Elfed lle gallwch stocio lan ar hanfodion groser, ac ychydig y tu allan i Gwmduad fe welwch chi Telynau Pedran sy'n gwneud yr offerynnau cerdd hardd hyn â llaw.  

I gael mwy o ddewis bydd angen i chi archwilio'r trefi a'r pentrefi o'ch cwmpas. Mae'r dewis mwyaf o siopau yng Chaerfyrddin, lle gallwch ddod o hyd i ddigon o therapi manwerthu yn enwau'r stryd fawr ac mewn siopau annibynnol. Cymerwch olwg ar Canolfan Siopa Rhodfa'r Santes Catrin ar gyfer brandiau mawr fel Next, Lush a Tiger, ac archwiliwch y strydoedd cyfagos lle byddwch chi'n dod o hyd i siopau sy'n gwerthu popeth o de yn Tea Traders, i lyfrau Waterstones, a dillad Weird Fish dillad. Mae yna hefyd archfarchnadoedd fel Morrisons, Co-Op Food, Aldi, Lidl a Tesco Extra. 

Yn Llandysul mae Spar a Siop Fwyd CK, yn ogystal â siop ffrwythau, cigydd, siop lyfrau a mwy; tra yng Nghastell Newydd Emlyn mae siop Co-op Food a siopau annibynnol fel Soap Shack, cigyddion, gwerthwyr blodau a siop bwyd iach. 

Yng Nghaerfyrddin fe welwch hefyd ganghennau o'r banciau NatWest, Lloyds, TSB a Santander ar gyfer gwasanaethau ariannol. 

Bwyta ac Yfed 

The Lamb Of Rhos, Rhos, Sir Gaerfyrddin
The Lamb Of Rhos, Rhos, Sir Gaerfyrddin

Mae yna lawer i'w fwynhau o ran bwyd a diod yng Ngorllewin Cymru. O gaffis traeth llawn hwyl i fwytai sy’n gweini seigiau lleol blasus a thafarndai croesawgar, a chynhyrchwyr bwyd yn creu cynnyrch crefftus, mae rhywbeth at ddant pawb. 

Yng Nghynwyl Elfed mae'r Blue Bell Inn Bwyty Tsieineaidd, tra ar y ffordd i'r gogledd o'r pentrefi hyn fe welwch The Lamb of Rhos , bwyty a bar poblogaidd sy'n cynnig llety os ydych chi'n dod i'r ardal i chwilio am dŷ. 

Yn sefyll rhwng Llandysul a Chastell Newydd Emlyn, mae The Leeky Barrel Welsh Bistro & Shop yn bendant yn werth ymweld. Yma gallwch roi cynnig ar seigiau fel cocos a bara lawr a chawl Cymreig. 

Hefyd yn daith fer i ffwrdd mae'r tafarndai Tafarn John Y Gwas a The Red Lion yn Drefach Felindre ac mae’r ddwy yn gweini bwyd da, dewis o gwrw ac yn cynnig awyrgylch cyfeillgar. 

Yn Llandysul mae mwy o fwytai, siopau coffi a siopau cludfwyd, gan gynnwys Ffab Cymru; Buon Appetito, a Nyth Y Robin, yn ogystal â dewis o siopau cludfwyd. Yn Chastell Newydd Emlyn. rhowch gynnig ar lefydd fel The Travelling Teapot neu a Y Cwtch Coffi; tra yng Nghaerfyrddin fe gewch chi ddigonedd o ddewis fel y bwyty ciniawa cain The New Curiosity; Florentino's, yn cynnig bwyd Eidalaidd go iawn; a'r Warren arobryn am goffi gwych, cwrw, a bwydlenni gwych ar gyfer cinio, swper a chinio dydd Sul. 

Gofal Iechyd 

Pont yng Nghwmduad, Sir Gaerfyrddin
Pont yng Nghwmduad, Sir Gaerfyrddin

Mae’r canolfannau meddygol agosaf yng Nghastell Newydd Emlyn, Llandysul a Chaerfyrddin, felly mae’n debyg bod y feddygfa y dewiswch gofrestru gyda hi fydd yn dibynnu ar ble yr ydych chi’n byw neu weithio.   

Yng Nghastell Newydd Emlyn, mae Meddygfa Emlyn yn darparu ystod o glinigau arbenigol ac yn cynnal cymorthfeydd bore a phrynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener (8am i 6.30pm). Yn Llandysul mae gan Meddygfa Llynyfran dîm o feddygon, ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis, tra yng Nghaerfyrddin mae Meddygfa San Pedr ar Heol San Pedr a Meddygfa Furnace House ar Heol Sant Andreas. Mae gan Gaerfyrddin hefyd Ysbyty Glangwili. 

Mae deintyddion hefyd ar gael ym mhob un o'r tair tref. Mae gan Gastell Newydd Emlyn Teifi Dental Centre a Gofal Deintyddol Emlyn; mae gan Landysul The Cottage Dental Practicetra bod yng Nghaerfyrddin mae Canolfan Ddeintyddol Caerfyrddin, Hayden Dental, a Deintyddfa Water Street.  

Mae gan Gastell Newydd Emlyn ddwy fferyllfa - Fferyllfa Boots a Fferyllfa'r Bont; Mae gan Landysul Fferyllfa Lloyds a Fferyllfa Boots; ac y mae gan Gaerfyrddin fferyllfa Walter Lloyd , Fferyllfa Nigel Williams, a Fferyllfa Tesco

Ar gyfer milfeddygon mae gennych chi ddewis o Castle House yng Nghastell Newydd Emlyn, Milfeddygon Tysul/Tysul Vets yn Llandysul a Chanolfan Filfeddygol Caerfyrddin.

Ar gyfer unrhyw broblem gyda’ch cefn byddem yn argymell yn fawr West Wales Chiropractors ym Mlaenporth – llai na 35 munud o'r pentrefi hyn. 

Ysgolion 

Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin
Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin

Os oes gennych chi blant ifanc, atyniad mawr yw cael ysgol gynradd leol ac mae ysgol groesawgar, hyfryd ym mhentre Cynwyl Elfed mae ganddi ysgol hyfryd, groesawgar yn y pentref.  

Ar gyfer addysg uwchradd, mae ysgolion yng Nghaerfyrddin, Castell Newydd Emlyn a Llandysul - yn dibynnu ar ble rydych chi'n dod o hyd i'ch tŷ perffaith ar werth yn Sir Gaerfyrddin. Yng Nghastell Newydd Emlyn mae Ysgol Gyfun Emlyn tra yng Nghaerfyrddin mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac yn Llandysul mae Ysgol Bro Teifi sy'n ysgol gynradd ac uwchradd bwrpasol.  

I deuluoedd sydd eisiau dod o hyd i addysg arbenigol i blentyn ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu difrifol, mae ysgol ragorol yn Aber-porth, tua 35 munud o’r pentrefi hyn. Mae Canolfan y Don yn croesawu disgyblion hyd at 11 oed ac mae ganddi dîm gwych i gefnogi plant. 

Mae addysg bellach ar gael yng Nghaerfyrddin, lle maer Coleg Sir Gâr yn cynnig dewis eang o gyrsiau academaidd ac ymarferol, gan gynnwys prentisiaethau, dysgu oedolion a chyrsiau rhan-amser. Fel arall, yn Aberteifi fe welwch chi Goleg Ceredigion sy'n cynnig cyrsiau mewn meysydd fel y celfyddydau perfformio ac adeiladu, yn ogystal â chyrsiau TGAU. 

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin., sydd â chyrsiau ym mhopeth o ddylunio gemwaith i ddylunio 3D a chelfyddyd gain. 

The Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gampws yng Nghaerfyrddin, lle mae tua 1500 o fyfyrwyr yn astudio pynciau fel Gwaith Ieuenctid, Gwneud Ffilmiau Antur, Cymdeithaseg a Hyfforddi Rygbi, gan roi dewis pellach i oedolion a phobl ifanc.  

Cludiant 

Arwydd, Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin
Arwydd, Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin

Amgylchynnir yr ardal hon gan gefn gwlad hyfryd ac mae'n wledig iawn felly byddem yn argymell bod gennych gar os ydych yn dewis byw yma, er mwyn cael mynediad i holl fwynderau'r trefi a'r pentrefi cyfagos. 

Mae’r pentrefi hyn yn elwa o wasanaeth bws rheolaidd sy’n cysylltu Cwmduad a Chynwyl Elfed â Chastellnewydd Emlyn, Caerfyrddin ac Aberteifi – y Gwasanaeth 460.

Gallwch hefyd wirio llwybrau ac amseroedd bysiau eraill ar y cynlluniwr taith hwn

Mae gan Gaerfyrddin hefyd wasanaeth trên rheolaidd i Lundain – mae rhai yn drenau uniongyrchol,gydag eraill bydd rhaid i chi newid yng Nghaerdydd neu Abertawe – gan ychwanegu at apêl yr ​​ardal hon. 

Darganfod Mwy ... 

Fel gwerthwr tai arbenigol arobryn yng Ngorllewin Cymru, rydym yn adnabod trefi a phentrefi’r rhanbarth yn dda a gallwn gynnig cyngor arbenigol ar ble sy’n iawn i chi. Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch tŷ perffaith ar werth yng Ngheredigion, Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin, felly beth am gysylltu? 

Cysylltwch â ni ar 01239 562 500 i drafod eich cynlluniau. 

Os ydych yn awyddus i ddarganfod mwy am yr ardal gallwch hefyd edrych ar y gwefannau eraill hyn -