Penwythnos Afalau yn Llanerchaeron
Share

Mwynhewch benwythnos â thema afal yn eiddo hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron ger Aberaeron.

Beth ydyw?

Mae'r Penwythnos Afalau hwyliog hwn yn ddathliad o'r afal gostyngedig! Wedi'i gynnal o fewn tiroedd hyfryd Llanerchaeron, mae'n gyfle i ddarganfod dros 50 o wahanol fathau o afalau a fydd ar ddangos, yn ogystal â mwynhau arddangosiadau o wasgu afalau. 

Os oes gennych chi goed afalau gartref ac nad ydych chi'n siŵr pa fathau sydd gennych chi, yna gallwch chi hefyd fynd â'ch afalau gyda chi i gael eu hadnabod! Os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn yna maen nhw'n cynghori, wrth gasglu'ch afalau, i wneud yn siŵr eich bod chi'n cynnwys y coesyn a'r dail i helpu gyda'r adnabod.

Bydd yna hefyd amrywiaeth o stondinau yn gwerthu cynnyrch â thema afalau – ac eitemau eraill – gan sicrhau bod digon i’w ddarganfod yn y digwyddiad arbennig hwn yn yr hydref.

Pryd mae'n digwydd?

Cynhelir Penwythnos yr Afalau ar yr 2il, 3ydd a 4ydd o Hydref – felly does dim rhaid aros yn hir! Mae'r digwyddiad ar agor o 10am tan 4pm bob dydd, gan roi digon o gyfle i fynd draw a darganfod afalau gorau tymor yr hydref.

Beth yw'r gost?

Mae'r penwythnos hwyliog hwn yn rhad ac am ddim, ond mae'r pris mynediad arferol ar gyfer Llaerchaeron yn berthnasol. Gallwch ddarllen am yr holl opsiynau prisio. yma.

Darganfyddwch Llanerchaeron

Mae Llanerchaeron hanesyddol yn gartref i fila Sioraidd hyfryd, a ddyluniwyd gan John Nash, yn ogystal â thiroedd hardd, llyn a'r ardd gaerog gynhyrchiol. Tra byddwch chi yma, cymerwch amser i archwilio'r fila a'r gerddi, yn ogystal â'r adeiladau fferm hanesyddol. Mae yna hefyd ardaloedd chwarae i deuluoedd yn y stablau, buarth y fferm a drysfa laswellt yn yr ardd, yn ogystal ag anifeiliaid i gwrdd â nhw, gan sicrhau diwrnod allan hyfryd i'r teulu cyfan.

Mae gan yr eiddo hefyd Gaffi Conti a siop lyfrau ail-law, yn ogystal â theithiau cerdded hyfryd ar lan yr afon. 

Darganfyddwch fwy ar y Gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.