Dewch i ni Gefnogi Diwrnod Daear y Byd – Bob Dydd

Diwrnod Daear y Byd Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. (3)

Yn y darlleniad dwy funud hwn, edrychwn ar yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Nid yw erioed wedi bod yn fwy amlwg yn hanes dyn bod angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw os yw'r blaned i gael dyfodol.

Felly, ni fu Diwrnod Daear y Byd eleni, a gynhelir ddydd Gwener, 22 Ebrill, erioed mor bwysig.

Nod y diwrnod, sydd wedi cymryd lle ar draws y byd ers dros 50 mlynedd, yw codi ymwybyddiaeth o'r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i wneud gwahaniaeth.

Byddwn yn mynd yn wyrdd am y diwrnod yn Cardigan Bay Properties – yn llythrennol, drwy wisgo rhywbeth gwyrdd i dynnu sylw at y digwyddiad.

Ond rydym yn sylweddoli bod rhaid i ni wneud hyn am fwy na dim ond diwrnod, felly rydyn ni’n annog pobl i ystyried rhai o’r deg awgrym isod i addasu’r ffordd rydyn ni i gyd yn byw i ffordd o fyw mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

1. Seiclwch neu gerddwch lle bo modd

2. Prynwch eitemau ail law – mae’n well gennym eu disgrifio fel pethau a garwyd o’r blaen

3. Bwytewch gynnyrch lleol, tymhorol

4. Cymerwch gawod yn lle bath

5. Golchwch ddillad ar 30 gradd

6. Gosodwch baneli solar

7. Ystyriwch brynu car trydan

8. Defnyddiwch fylbiau LED

9. AIlgylchwch ac uwchgylchwch

10. Rhannwch yr awgrymiadau hyn

Fel asiantaeth, rydym yn ymroddedig iawn i wneud ein rhan dros yr amgylchedd. Rydyn ni'n gweithio o'n swyddfa gartref, mae hyn yn lleihau teithio a chan mai adeilad bach ydyw, mae ein biliau gwresogi yn isel. Rydym yn defnyddio goleuadau LED, ac rydym mor ddi-bapur ag y gallwn fod, dim ond yn argraffu'r hyn sy'n gwbl angenrheidiol a gwneud popeth ar-lein, yn electronig lle gallwn.

A dros y mis diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn plannu gwahanol fathau o goed ar ein tir ac yn ein gerddi ein hunain i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Rhowch wybod i ni beth yw’ch awgrymiadau chi ar gyfer mynd yn wyrdd.

Diolch am ddarllen hwn.